1 Gydag ieir y cei dy garv
2 Y celiog dewr ar clog dv
3 Cwrelael yn caroli
4 Cyfliw i bais cwfl y bi
5 Cydwr fry coed iair y fron
6 Cwbl o ammod cyw blowmon
7 Castellwr diddanwr dyn
8 Casvlwyrdd edn ceseilwyn
9 Yscvttvll yn cynnvll cad
10 Esgvd wybr ysgod Abad
11 Ysgwl dv ymlaen osgl dar
12 Escoblvn mewn yscablar
13 Delw eglwyswr dail gleision
14 Deilwr brawd bregethwr bronn
15 Dy lifrai or mwtlai main
16 Dwy lawes dew o liain
17 Dwbled it o blv y don
18 Dwyael dy fentyll dvon
19 Crefyddwisg it a wisgwyd
20 Crefydd serch crefyddvs wyd
21 Ni mynnyd ben ymwanwr
22 Bwyd y dydd ond bedw a dwr
23 Bwyd o frig coed bedw y fron
24 Bwyd iair mewn bedw irion
25 [132r] Dy waith fydd dwywaith bob dydd
26 Er i mwyn iair y mynydd
27 Yn ael coed cynnal cadoedd
28 A rhif gwyr tra rhyfig oedd
29 Gwyddost gyfran ar lannerch
30 holl geingciavgampav mesvrav serch
31 Beiddiwr aer bydd yr awron
32 lattai ym at eiliw tonn
33 Cyfeiria accw yforv
34 Y dwyrain dan dorvn dv
35 Oni ddelych i ddolydd
36 A dyffryn gwaisg addwyn gwydd
37 A ffrif afon ffyrf fwyfwy
38 A ran y ddol wair yn ddwy
39 Adail yn lled deilio n llawn
40 Ac adar gogyfoediawn
41 Disgyn edn dos gennadwr
42 Ar lwyn dail ar lann y dwr
43 Gwyl or coed gwilia wr cain
44 Hael dewr am havl y dwyrain
45 Degle n nes dwg i liw nyf
46 Ddeg annerch oddigennyf
47 dan arwydd ddoe dawn i r ddyn
48 Erchi ym a gorchymmyn
49 Yn y llan i charv dan llaw
50 Ac o beth i gobeithiaw
51 [132v] Dywaid i wenn liw splennydd
52 Deled i oed devliw dydd
53 Os daw hi nos da iw hwyneb
54 I fynydd ni wybydd neb
Da' ap Glm'